Race Equality First – Helpwch Ni i Wella Gofal Diwedd Oes yng Nghymru

Cefnogi Cymunedau Amrywiol Ethnig a Chrefyddol Cymru
Beth yw pwrpas y prosiect hwn?


Rydym yn casglu profiadau pobl o gymunedau amrywiol o ran ethnigrwydd a/neu
grefyddiaeth yng Nghymru sydd wedi bod yn ymwneud â gofal diwedd oes.
Bydd eich mewnwelediadau yn helpu i lunio argymhellion i wella gwasanaethau
lliniarol a diwedd oes fel eu bod yn diwallu anghenion cymunedau amrywiol
Cymru yn well.

Pwy all gymryd rhan? (Mae pob profiad a safbwynt yn werthfawr)
Unrhyw un sydd â phrofiad o ofal diwedd oes sydd:
Wedi gofalu am anwylyd
Yn gofalu am rywun ar hyn o bryd
Profiad proffesiynol mewn gofal lliniarol neu ddiwedd oes
Yn rhan o gymuned ethnig neu grefyddol amrywiol Nghymru


Beth mae cymryd rhan yn ei olygu?
Cyfweliad un-i-un (yn bersonol neu ar-lein) sy’n para 30-60 munud.
Byddwn yn trafod eich profiadau y gefnogaeth a gawsoch, unrhyw rwystrau a
wyneboch, a’r hyn y gellid ei wella.

A fydd fy ngwybodaeth yn gyfrinachol?
Ydy. Ni fydd eich enw a’ch manylion adnabod byth yn cael eu cynnwys mewn
unrhyw adroddiad. Byddwch yn cael enw cyfranogwr ar hap, a bydd unrhyw
ddyfyniadau a ddefnyddir yn gwbl ddienw.


A oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan?
ToI gymryd rhan neu i gael gwybod mwy, cysylltwch â:
samuel@raceequalityfirst.org.uk
029 2048 6207 / 07513 537 209