Cynllunio ar gyfer gofal diwedd oes – dewch i drafod

Mae meddwl am y dyfodol yn medru bod yn anodd – ond mae sgwrsio am y dyfodol yn medru eich helpu chi a’ch anwyliaid i ganolbwyntio ar yr hyn fydd yn bwysig nes ymlaen.

Wythnos ‘ma, (04 – 10 Mai) mae’n wythnos Dying Matters, ac rydyn ni eisiau codi ymwybyddiaeth ynghylch gofal diwedd oes. Weithiau, dechrau sgwrs gyda’r bobl o’ch cwmpas yw’r peth anoddaf. Gall siarad â phobl sy’n eich caru chi am farwolaeth deimlo fel tabŵ, ac efallai ei fod yn rhywbeth rydych chi wedi’i osgoi yn y gorffennol.

Fodd bynnag, gall y trafodaethau anodd hyn wneud pethau’n haws ymhellach i lawr y ffordd. Nid yw trafod y pethau hyn yn hawdd, ond os na fyddwch chi’n gallu rhannu eich dymuniadau yn y dyfodol, gall sicrhau bod trefniadau eisoes wedi cael eu gwneud helpu pawb, yn cynnwys chi.

Rydyn ni’n cydweithio gydag Age Cymru, sef yr elusen genedlaethol i bobl hŷn yng Nghymru, sy’n ffynhonnell ddibynadwy o gefnogaeth ac eiriolaeth. Yn ôl eu harolwg cenedlaethol diweddaraf, nid oes gan bron i 85% o bobl dros 50 oed gynllun gofal ar gyfer y dyfodol, sy’n golygu bydd yn rhaid i’w teuluoedd a’u ffrindiau wneud penderfyniadau anodd yn y dyfodol. 

Mae cynllun gofal ar gyfer y dyfodol yn edrych yn wahanol i bawb. Efallai mai creu ewyllys fyddwch chi, neu ddatganiad ysgrifenedig o ble a sut rydych chi am gael gofal ar ddiwedd eich oes. Gan ein bod yn debygol o fyw tua phumed o’n bywyd gyda salwch o ryw fath, nid yw hi byth yn rhy gynnar i ddechrau meddwl am ein lles yn y dyfodol

Os nad ydych chi’n siŵr sut i ddechrau meddwl am gynllun gofal ar gyfer y dyfodol, mae gan Age Cymru lawer o gyngor, canllawiau ac adnoddau am ddim i’ch helpu gyda’r broses, gan gynnwys:

  • Sut i gynnal sgyrsiau am farwolaeth a gofal gydag anwyliaid
  • Gwneud ewyllys
  • Atwrneiaeth
  • Siarad â’ch meddyg teulu neu dîm meddygol
  • Trefnu eich arian

Meddai Kelly Barr o Age Cymru, er ei bod yn gallu bod yn anodd meddwl am bethau fel hyn, gall y sgyrsiau cynnar hyn gydag anwyliaid wneud gwahaniaeth enfawr: “Efallai nad yw llawer o bobl wedi clywed am y term ‘cynllun gofal ar gyfer y dyfodol’ o’r blaen, ond fel cymaint o bethau eraill, maen nhw’n gwneud gwahaniaeth enfawr pan fydd eu hangen fwyaf.

“Mae gan Age Cymru awgrymiadau defnyddiol ar sut i ddechrau sgyrsiau am ofal gydag anwyliaid. Er enghraifft, ceisiwch ysgrifennu nodiadau ymlaen llaw am yr hyn rydych chi am ei ddweud, a chofiwch fod popeth yn iawn os bydd rhywun yn emosiynol neu’n cynhyrfu yn ystod y sgwrs; Mae’n rhan hollol normal o ddelio â phynciau anodd.

“Weithiau mae clywed pobl eraill yn siarad am bynciau anodd fel marwolaeth a gofal yn medru helpu. Mae gan un o’n podlediadau Age Matters bennod gyfan sy’n ymroddedig i gynllunio gofal.  Ewch ati i wrando ar unrhyw blatfform sy’n darlledu podlediadau, neu ewch i’r wefan.

Mae rhagor o awgrymiadau yn erthygl Age Cymru am gynllunio gofal ar gyfer y dyfodol, yn ogystal â’u taflen wybodaeth sy’n eich tywys trwy bob agwedd ar gynllunio ar gyfer eich dyfodol a gofal diwedd oes.

Os ydych chi am ddechrau meddwl ymlaen nawr, cysylltwch â thîm Age Cymru i ofyn am gymorth a chyngor:

Ffoniwch: 0300 303 44 98

E-bost: advice@agecymru.org.uk