Cronfa grantiau bach Cymru Garedig 2025

Mae ein cronfa grantiau bach yn derbyn ceisiadau. Mae croeso i gymunedau ledled Cymru wneud ceisiadau am hyd at £500 er mwyn cychwyn, datblygu neu gynnal gweithgareddau sy’n cefnogi cymunedau i ddangos caredigrwydd tuag at bobl sy’n ceisio ymdopi gyda marwolaeth, marw a phrofedigaeth yn y gweithle, mewn cartrefi gofal neu yn y gymuned leol.

Dyma rai esiamplau: gweithle bach sydd eisiau dechrau grŵp sy’n cefnogi pobl sydd wedi cael eu heffeithio gan gancr; sesiwn sy’n helpu pobl i gynllunio ar gyfer gyfnodau hwyrach eu bywyd; prosiect celf gyda phobl sy’n byw mewn cartrefi gofal sydd eisiau trafod diwedd eu hoes; bore te a choffi mewn Caffi Marwolaeth, ac yn y blaen. Bydd y syniadau yn dibynnu ar anghenion y gymuned leol. Os hoffech chi drafod eich prosiect a gwneud yn siŵr ei fod yn addas ar gyfer y gronfa, anfonwch neges atom.

Mae’r rhaglen grantiau yn eithaf hyblyg. Gellir defnyddio’r arian i gynllunio digwyddiad untro, neu raglen o weithgareddau, ar-lein neu all-lein.

Nid oes angen i ymgeiswyr fod yn elusennau cofrestredig, ond bydd angen bod ganddyn nhw strwythurau addas a chyfrif banc. Byddwn yn ystyried ceisiadau gan grwpiau sy’n cyd-weithio hefyd.

Ni fyddwn yn derbyn ceisiadau ar ôl: Dydd Gwener 23 Mai 2025

Cwblhewch y cais yma.

Neu gofynnwch am ffurflen gais drwy’r wybodaeth isod.

Neu mynnwch ffurflen gais drwy gysylltu â: contact@compassionate.cymru neu ffoniwch: 029 2043 1555

Ariennir y rhaglen grantiau bach gan Macmillan Cancer Care, gweinyddwyd y rhaglen gan Age Cymru, sy’n gweithredu fel ysgrifenyddiaeth Cymru Garedig.