Ar ôl i rywun farw

Os yw rhywun rydych chi’n poeni amdano wedi marw, rydyn ni yma i helpu. Darganfyddwch sut y gallwn eich cefnogi, cael gwybodaeth am wasanaethau a sut y gallwch chi ymwneud â mudiad Cymru Garedig.

Adnoddau profedigaeth

Os ydych chi’n teimlo yr hoffech chi siarad â rhywun am eich teimladau yn ystod neu ar ôl profedigaeth, mae yna lawer o adnoddau ar gael i’ch cefnogi chi:

Dyma daflen ddefnyddiol iawn gan Byw Nawr sy’n cynnwys gwybodaeth, cyngor a chymorth ar brofedigaeth.

Gallai rhai mathau o brofedigaeth olygu eich bod yn teimlo yr hoffech gael cyngor mwy arbenigol.

Er enghraifft, os ydych chi’n rhiant neu’n ofalwr i blentyn sydd wedi marw mae’n bosib yr hoffech chi gysylltu â Winston’s Wish.

Ar gyfer cefnogaeth Profedigaeth ar ôl i rywun farw ar ôl hunanladdiad, mae’r Bartneriaeth Cymorth ar ôl Hunanladdiad yn dwyn ynghyd gefnogaeth a gwybodaeth.

Os ydych chi’n teimlo bod eich galar yn achosi problemau mwy cymhleth i chi neu os yw’n ymddangos ei fod yn gwaethygu, dylech siarad â’ch meddyg teulu, a fydd yn gallu awgrymu ffynonellau cymorth a chefnogaeth bellach.

Mae’n bosib y byddwch yn teimlo yr hoffech helpu neu gefnogi eraill sy’n mynd trwy’r un profiad beth amser ar ôl i chi gael profedigaeth eich hun. Gall Cymru Garedig eich helpu i ddod o hyd i lwybr i wneud hynny, felly cysylltwch yma.