Enghreifftiau o gymunedau caredig ar waith

Mae cymunedau caredig ym mhob lliw, maint, cefndir diwylliannol, maent yn rhannu rhai nodweddion sy’n cyfrannu at eu llwyddiant:

  • Mae gan bob un bobl, p’un a ydyn nhw’n cael eu galw’n gysylltwyr cymunedol, catalyddion cymunedol, rhagnodwyr cymdeithasol, cydgysylltwyr ardal leol neu deitl arall, sy’n gweithio i gefnogi unigolion mewn cymunedau i gynnal eu hunain a’i gilydd.
  • Mae gan bob un ddiddordeb mewn brwydro yn erbyn anghydraddoldebau a chefnogi’r rhai sydd angen help a’r rhai sydd eisiau helpu, gan gydnabod pwysigrwydd ymdeimlad o gysylltedd ar gyfer lles a byw bywyd da – beth bynnag mae hynny’n ei olygu i unigolion.
  • Mae gan bawb ddiddordeb mewn nodi a herio unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol gan gydnabod y niwed y mae’r rhain yn eu hachosi i fywydau da pobl.
  • Mae pob un yn ceisio rhannu arfer da ac adeiladu cyfalaf cymdeithasol – adnoddau cymdeithasol y mae pob aelod o gymunedau yn eu rhannu.
  • Mae pob un yn cydnabod pwysigrwydd ‘ymddiriedaeth, gwrando ac amser’ fel sylfeini adeiladu cymunedol.

Dyma rai enghreifftiau gan gynnwys un yng Nghymru yr ydym yn dysgu ohoni ac yn adeiladu arni:

ACE – Action in Caerau and Ely – Cymunedau Tosturiol

Mae ACE – Action in Caerau and Ely yn elusen seiliedig y gymuned dan berchnogaeth a gweithrediad trigolion Gorllewin Caerdydd. Rydym yn gweithio gyda’n cymunedau amrywiol lleol i sicrhau newid cadarnhaol parhaol trwy gyd-gynhyrchu gwasanaethau a gweithgareddau, gan ddefnyddio datblygu cymunedol yn seiliedig ar asedau i ddiwallu anghenion lleol. Fel sefydliad sy’n seiliedig ar le sydd â gwreiddiau cryf yn y gymuned leol, ein nod yw dod â chymunedau ynghyd i fod yn gryfach, a gwella bywyd pob unigolyn.

Ym mis Ebrill 2020, trwy Grant Buddsoddi Macmillan, cyflogodd ACE Swyddog Datblygu Macmillan i archwilio datblygiad ymateb cymunedol i farwolaeth, marw a phrofedigaeth. Trwy ddefnyddio dulliau datblygu cymunedol, rydym yn gobeithio cynyddu argaeledd cefnogaeth gymunedol dosturiol i’r rheini sy’n cychwyn ar eu taith diwedd oes, yn enwedig y rhai nad oes angen gofal lliniarol dwys gartref neu hosbis arnynt eto. Pwrpas cyffredinol y prosiect yw cychwyn sgyrsiau gyda’r cyhoedd ynghylch salwch sy’n cyfyngu ar fywyd, goroesi, marw, marwolaeth a phrofedigaeth. Wrth wneud hynny, mae ACE yn gobeithio adeiladu gwytnwch unigolion a chymunedau, a chynyddu gallu cymunedau lleol i ddarparu’r tosturi a’r gefnogaeth sydd eu hangen ar gynifer. Mae’r prosiect yn gweithio gydag aelodau’r gymuned gyda’r nod o ddod yn hyrwyddwyr tosturi, trwy wella rhwydweithiau, cyd-greu cyfleoedd newydd a chysylltu’n glir â gweithgareddau cymunedol sy’n bodoli eisoes.

Gan adeiladu ar ddysgu o Fodel Frome (gweler isod), mae’r prosiect hwn yn elwa o redeg ochr yn ochr â gwasanaeth ‘YourSpace’ ACE sy’n darparu rhagnodi cymdeithasol fel rhan o brosiect Trawsnewid Gofal Sylfaenol Clwstwr De Orllewin Caerdydd i drawsnewid y ddarpariaeth o ddarpariaeth iechyd a gofal cymdeithasol lleol. Mae’r bartneriaeth hon yn darparu cysylltiad cryf rhwng gofal sylfaenol a gwasanaethau datblygu cymunedol, gan ganiatáu i Gysylltwyr Lles Cymunedol gysylltu cleifion yn effeithiol â’r amrywiaeth helaeth o adnoddau cymunedol.

 

Gallwch ddysgu mwy am ACE – Action in Caerau and Ely ar ein gwefan: https://www.aceplace.org

Model Frome

Mae Dr Julian Abel, Cyfarwyddwr Compassionate Communities UK, wedi bod yn gweithio gyda’r tîm yn Frome Medical Practice ers 2016 i weithredu a chyflwyno Model Frome ar draws ardal Mendip yng Ngwlad yr Haf.

Ar adeg pan gododd derbyniadau brys yng Ngwlad yr Haf 30%, gostyngodd y rhai yn Frome 15%. Dyma’r ymyrraeth gyntaf sydd wedi lleihau derbyniadau brys i’r ysbyty ar draws poblogaeth yn llwyddiannus ac sy’n cynnig y posibilrwydd o osgoi’r argyfwng presennol yn y GIG o gynyddu derbyniadau i’r ysbyty a chostau cynyddol y GIG. Mae derbyniadau brys yn cyfrif am bron i 20% o’r gyllideb gofal iechyd gwerth £110 biliwn.

Cyhoeddwyd y papur academaidd sy’n disgrifio’r hyn a ddigwyddodd yn Frome yn y British Journal of General Practice yn 2018 https://bjgp.org/content/68/676/e803/tab-article-info

Cymerodd Frome Medical Practice, sy’n gwasanaethu’r boblogaeth o 28,000 yn Frome a’r ardal gyfagos, y dull arloesol o gyfuno rhaglen gymunedol dosturiol o ddatblygu cymunedol â gofal meddygol arferol.

Nid yw cymunedau tosturiol yn disodli gofal cymdeithasol. Yn hytrach, mae ganddyn nhw 3 cydran.

Trwy wneud y gorau o’r rhwydweithiau cefnogol o deulu, ffrindiau a chymdogion, mae pobl yn adeiladu gofal a chysylltiad, cariad a chwerthin, gan rannu cwmnïaeth a gwerthoedd. Mae peth o’r dasg hon yn gysylltiedig â gofalu ac mae rhywfaint yn cynyddu ymdeimlad o berthyn mewn cymunedau.

Adeiladu rhwydweithiau o gefnogaeth ar gyfer materion arferol bywyd, siopa, coginio, glanhau, gofalu am yr ardd ac anifeiliaid anwes, darparu lifftiau. Cysylltu â gweithgaredd cymunedol, fel côr, grwpiau cerdded, men’s sheds, caffis siarad a grwpiau diddordeb eraill lle gall pobl wneud cyfeillgarwch a rhannu digwyddiadau bywyd.

Gyda’i gilydd, mae cymunedau caredig yn helpu i leihau arwahanrwydd ac unigrwydd ac yn dod ag ymdeimlad o berthyn i’r hyn sydd ar adegau’n gymdeithas sydd wedi’i datgysylltu.

Meddai Dr Julian Abel, Cyfarwyddwr Compassionate Communities UK:

“Hyd yma nid yw meddygaeth wedi gweld y parth perthnasoedd cymdeithasol fel rhan o ofal clinigol. Fodd bynnag, dyma’r ymyrraeth fwyaf effeithiol sydd gennym wrth wella iechyd a lles ar draws poblogaethau. Mae’r prosiect yn Frome wedi dod o hyd i ffordd o greu cymunedau caredig ac wedi ymgorffori rhan o ofal. Mae canlyniadau gwneud hynny’n syfrdanol.”

Gallwch ddarllen mwy am Frome a chymunedau caredig ar eu gwefan:
https://www.compassionate-communitiesuk.co.uk/projects

Compassionate Inverclyde

Lansiwyd Compassionate Inverclyde yn swyddogol ar 1 Mawrth 2017. Nod y rhaglen yw galluogi a grymuso pobl i helpu a chefnogi ei gilydd ar adegau o angen iechyd cynyddol, argyfwng a phrofedigaeth. Cydnabyddir bod rôl teuluoedd, ffrindiau a chymdogion yn gweithio ochr yn ochr â gwasanaethau ffurfiol yn hanfodol i greu cymuned garedig.
Cafodd Alison Bunce ei hysbrydoli gan waith yr Athro Allan Kellehear y mae ei lyfr Compassionate Cities (Kellehear, 2005) yn disgrifio gweledigaeth iechyd cyhoeddus sy’n cynnwys cymunedau wrth fabwysiadu dull tosturiol o farw, marw a cholled. Ganwyd y syniad ar gyfer Compassionate Inverclyde o’r ysbrydoliaeth honno.

Dechreuodd y Rhaglen gyda No One Dies Alone (NODA) sy’n ceisio cefnogi pobl nad oes ganddynt deulu na ffrindiau yn ystod oriau olaf eu bywyd. Mae rota o Gymdeithion Gwirfoddol yn eistedd i sicrhau bod rhywun gyda’r unigolyn bob amser nes ei fod yn marw i sicrhau nad yw’n marw ar ei ben ei hun.

Ers ei sefydlu, mae Compassionate Inverclyde wedi datblygu a thyfu’n organig ac mae’r Rhaglen bellach yn cynnwys:

Mae Blychau Dychwelyd Adref yn cynnwys darpariaethau ac maent yn cael eu rhoddi i unrhyw un sy’n cael ei ryddhau o Ysbyty Brenhinol Inverclyde, waeth beth yw ei oedran neu ei angen, sy’n byw ar ei ben ei hun. Mae’r blychau yn cynnwys eitemau hanfodol fel te, llaeth, bara, cerdyn gwellhad buan a wneir gan blant ysgol lleol a blanced. Mae pobl leol a grwpiau cymunedol yn gwau’r blancedi. Mae pobl, busnesau, sefydliadau a grwpiau ledled Inverclyde yn rhoddi’r darpariaethau. Mae’r weithred garedigrwydd gymunedol hon yn caniatáu i dderbynwyr baratoi diod boeth a byrbryd ysgafn am ychydig ddyddiau gan ganiatáu iddynt ganolbwyntio ar wella heb orfod poeni am siopa. Mae’r gwirfoddolwyr yn cymryd cyfrifoldeb llwyr ac yn trefnu’r Blychau Dychwelyd Adref.

Mae Rhaglen High Five yn mynd i’r afael â’r pum cam allweddol at les. Datblygodd Alison y Rhaglen pan oedd hi’n edrych yn strategol ar lesiant. Mae’n drosglwyddadwy a gellir ei gynnal gydag unrhyw grŵp o bobl. Rhoddir pwyslais ar bŵer caredigrwydd ac fe’i cyflwynir dros gyfnod o bum wythnos. Cyflwynwyd y rhaglen i ddisgyblion mewn ysgolion ledled Inverclyde yn ogystal â’r coleg lleol, grwpiau profedigaeth, grwpiau cyhoeddus, y Clwb Ieuenctid a staff Amazon.

Dechreuodd Hwb Cymorth Compassionate Inverclyde ar 29 Mai 2018 ac mae’n ganolbwynt cymorth dan arweiniad gwirfoddolwyr. Bydd yr Hwb yn fan cyfarfod i unrhyw un sy’n profi unigrwydd, argyfwng, arwahanrwydd cymdeithasol a phrofedigaeth.

Bydd Ymwelwyr Dychwelyd Adref yn cychwyn ym mis Hydref 2018 ac mae’n gynllun ymwelwyr, a fydd yn seiliedig ar gymdogaeth lle bydd ymwelydd a pherson ifanc yn ymweld â pherson ynysig yn gymdeithasol, dros wyth deg oed sy’n byw ar ei ben ei hun. Datblygodd y syniad o ddysgu o’r Blychau Dychwelyd Adref a ddangosodd fod y mwyafrif yn cael eu rhoi i bobl dros wyth deg sy’n byw ar eu pennau eu hunain.
Gwaith gyda Charchardai. Bydd hyn yn cychwyn yn hydref 2018. Bydd Alison yn cyflwyno Rhaglen High Five ac yn siarad â grwpiau o garcharorion a fyddai’n ymgymryd â rhywfaint o’r gwaith hwn gyda’r cyfle i agor sgwrs ynghylch Gofal Lliniarol a meysydd cyfranogiad posibl eraill.

Mae Llywodraeth yr Alban yn datblygu Strategaeth Genedlaethol i adeiladu cymunedau cydnerth cysylltiedig a all fynd i’r afael â phroblemau ynysu cymdeithasol ac unigrwydd (Llywodraeth yr Alban, 2018). Mae Compassionate Communities yn helpu i fynd i’r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol a all yn aml effeithio ar bobl eiddil a bregus. Y dystiolaeth gan Compassionate Inverclyde yw ei bod eisoes yn cael effaith ac yn helpu i leddfu pwysau ar wasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol oherwydd ers sefydlu’r Blychau Dychwelyd Adref, nid yw’r gwasanaethau Gofal Cartref wedi derbyn unrhyw alwadau argyfwng.

Gallwch ddilyn Compassionate Inverclyde ar Facebook a darllen mwy ar y wefan
https://www.alliance-scotland.org.uk/blog/case_studies/compassionate-inverclyde-part-1/
602

Prosiect Truacanta yn yr Alban

Datblygiad diweddar sy’n bwrw ymlaen â’r dull hwn yw’r prosiectau Truacanta yn yr Alban sy’n canolbwyntio ar ymagweddau iechyd cyhoeddus at ofal lliniarol.

Y gymuned eu hunain fydd yn pennu ffocws prosiect lleol a’r camau a gymerir. Fodd bynnag, bydd bod yn rhan o Brosiect Truacanta yn rhoi mynediad i brosiectau cymunedol lleol i’r canlynol:

  • cefnogaeth a chyngor datblygu cymunedol
  • cyfleoedd rhwydweithio a dysgu
  • cefnogaeth gyda gwerthuso
  • Cefnogaeth datblygu cymunedol
  • Mae datblygu cymunedol yn broses lle mae pobl yn dod at ei gilydd i weithredu ar yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw. Bydd cymunedau sy’n dod yn rhan o Brosiect Truacanta yn gallu cael gafael ar gyngor a chefnogaeth datblygu cymunedol dros gyfnod o ddwy flynedd (Ebrill 2020-Mawrth 2022). [ON: mae amserlen y prosiect yn cael ei hadolygu a bydd yn edrych ychydig yn wahanol oherwydd pandemig y coronafeirws.]

Bydd Rheolwr Prosiect Truacanta yn helpu cymunedau i archwilio sut y gallant ddefnyddio asedau eu cymuned orau – y cryfderau, y wybodaeth, y profiad, y sgiliau a’r adnoddau sy’n bodoli yn eu cymuned – i wella profiadau pobl o farwolaeth, marw, colled a gofal.

Bydd y gefnogaeth benodol a roddir yn cael ei theilwra ar gyfer pob prosiect. Er enghraifft, gallai cymunedau ei chael yn ddefnyddiol cael cefnogaeth i feddwl trwy’r prosiect a’i gynllunio, cyngor ymarferol ar sut i gael gwahanol rannau o’r gymuned i gymryd rhan, neu’r cyfle i sgwrsio am ffyrdd o ymateb i sefyllfaoedd anodd. Yn ogystal â rhywfaint o gyswllt wyneb yn wyneb, bydd gan gymunedau fynediad parhaus at gefnogaeth a chyngor trwy e-bost a ffôn. Mae’n bosib y bydd symiau bach o gyllid ar gael i gefnogi gwaith datblygu lleol.

Rhwydweithio
Bydd cymunedau sy’n ymuno â’r prosiect yn dod yn rhan o Rwydwaith Prosiect Truacanta gweithredol, gyda chyfleoedd i ddysgu oddi wrth a datrys problemau gydag eraill yn yr Alban sy’n wynebu heriau tebyg.

Gwerthuso
Mae gwerthuso yn rhan bwysig o Brosiect Truacanta, a bydd y cymunedau dan sylw yn derbyn cefnogaeth i werthuso effaith eu gwaith. Mae yna gynlluniau i gyhoeddi gwerthusiadau o Brosiect Truacanta, gan ychwanegu at y corff rhyngwladol o lenyddiaeth sy’n ymwneud ag ymagweddau iechyd cyhoeddus at ofal lliniarol.

Gallwch ddarganfod mwy am brosiect Truacanta yma: https://www.goodlifedeathgrief.org.uk/content/thetruacantaproject/