Taith Cymru Garedig

Yn gyntaf oll, rydyn ni’n bobl fel chi.

Rydym yn gydweithrediad o unigolion a sefydliadau sydd wedi ymrwymo i wella a chefnogi profiad pawb o ofal a phrofedigaeth diwedd oes yng Nghymru.
Rydym wedi esblygu o Byw Nawr a oedd yn adlewyrchu pryderon y mudiad trwy gynhyrchu sgwrs genedlaethol am sut y gallwn fyw yn dda a gwneud paratoadau ymlaen llaw ar gyfer diwedd oes. Mae cyflawniadau Byw Nawr yn cynnwys:

  • Sefydlu wythnos Byw Nawr yng Nghymru fel ffordd o gychwyn sgwrs ynghylch marwolaeth a marw
  • Cefnogi gwaith Cynllunio Gofal Ymlaen at y Dyfodol
  • Codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd cynllunio’n gynnar ar gyfer marw a’r angen i rannu meddyliau a theimladau gyda ffrindiau a theulu

Er 2020, mae Grŵp Llywio Byw Nawr wedi trawsnewid yn ffurfiol i Grŵp Llywio Cymru Garedig.

Yn 2018, nododd Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Llywodraeth Cymru ei ddyheadau i Gymru ddod yn ‘wlad dosturiol’ gyntaf y byd. Ers hynny mae gwaith wedi bod yn mynd rhagddo i ledaenu’r ymagwedd dosturiol ledled Cymru. Bu hyn arwain at gynhyrchu Siarter Cymru Garedig.

Mae’r Siarter yn darparu’r fframwaith ar gyfer datblygu a darparu ein hymagwedd cenedl dosturiol yng Nghymru ac mae’n amlinellu rhaglen o gamau cymdeithasol ac ymarferol ar draws ystod o barthau a phortffolios gweinidogol.

Fodd bynnag, mae gwneud Cymru yn wlad dosturiol yn golygu llawer mwy na rhoi Siarter ar waith. Mae’n ymwneud ag ymgorffori ymagwedd dosturiol yn ein holl weithleoedd, ein hysgolion, ein haddoldai, ein carchardai a chefnogi ein cymunedau i ddod yn fwy gwydn i allu ymdopi â’r heriau a ddaw yn sgil bywyd.

Mwy: https://www.dyingmatters.org/wales a https://www.compassionate-communitiesuk.co.uk/compassionate-communities-uk-wales

Wrth i ni weithio i ar gamau nesaf Cymru Garedig rydym yn bwrw ymlaen â’r thema ‘Beth sydd bwysicaf i chi?’ i helpu i drefnu ein gwaith a’n cysylltiadau. Rydym yn gwybod na fydd pobl a sefydliadau sydd eisoes yn darparu cefnogaeth neu eisiau helpu a chefnogi’r rhai yn eu cymuned i gyd eisiau neu yn gallu helpu yn yr un modd.

Rydym hefyd yn gwybod na fydd y rhai sydd angen cefnogaeth i gyd eisiau nac angen cefnogaeth yn yr un modd ar yr un pryd ac rydym am gyfateb y ddau repertoire hyn o adnoddau ac anghenion fel ein bod yn gwneud y cysylltiadau gorau oll yn ein cymunedau.

Credwn nad yw pobl yn aml yn ymwybodol o’r ffaith y gall cymuned dosturiol gynnwys y tasgau beunyddiol symlaf fel mynd â’r ci am dro neu ddarparu pryd o fwyd a gallant hefyd dyfu i gwmpasu cynllunio gydag asiantaethau’r llywodraeth, mudiadau’r trydydd sector i gydlynu a chefnogi gwell profiadau o farw.

Mae dros 80% o’r gofal a roddir i’r rhan fwyaf o bobl sydd ar ddiwedd eu hoes yn cael ei ddarparu gan deulu, ffrindiau a gofalwyr anffurfiol. Mae hyn yn rhoi cyfle gwych inni wella’r gofal hwnnw a’i gydlynu â’r gyfran a ddarperir gan wasanaethau ffurfiol.