
Mae archebion nawr ar agor ar gyfer digwyddiad Cymunedau Caredig yng Nghymru – 8 Mai 2025
Dydd Iau 8 Mai 2025, 10am-4pm, yn Corner Stone, Charles Street, Caerdydd, CF10 2GA
Fel rhan o wythnos Dying Matters, bydd Compassionate Cymru Garedig yn cynnal digwyddiad wyneb yn wyneb, wedi’i hwyluso gan Age Cymru, i dynnu sylw at gymunedau caredig yng Nghymru yng nghyd-destun marwolaeth, galar a phrofedigaeth.
Dewch i’r digwyddiad rhad ac am ddim hwn, a ariennir gan Macmillan Cancer Support, i glywed am y gwaith anhygoel sy’n digwydd i ddatblygu cymunedau caredig yng Nghymru.
Byddwch yn cael y cyfle i glywed gan Grief Discos, Compassionate Penarth, Julie Skelton, Gwirfoddolwr Cymunedol ar What Matters Most, Donna Marie Phillips-Sibanda, Cydlynydd Allgymorth Cymunedol yn Ivor Thomas Funerals yng Nghaerdydd, a Same But Different ynghylch eu harddangosfa, ‘What matters most’, sydd wedi ennill gwobrau a lle mae ffotograffiaeth, ffilm a naratif ysgrifenedig yn cyflwyno profiadau’r rheiny sy’n byw gyda marwolaeth a’r gofalwyr sy’n rhan o ddarparu gofal a chefnogaeth.
–
Mae’r digwyddiad yn rhad ac am ddim a darperir cinio a lluniaeth. Dyrennir lleoedd ar sail y cyntaf i’r felin.
Cofrestrwch yma neu ffoniwch Age Cymru ar 029 2043 1555 i archebu lle am ddim.
Cydweithrediad o unigolion a sefydliadau sydd wedi ymrwymo i wella a chefnogi profiad pawb o ofal diwedd oes a phrofedigaeth yng Nghymru, dan arweiniad ac wedi’i hwyluso gan Age Cymru.
–
Digwyddiad wyneb yn wyneb am ddim gyda chinio, yn tynnu sylw at gymunedau caredig yng Nghymru gan ganolbwyntio ar farwolaeth, marw, galar a phrofedigaeth.