Helpwch i adeiladu Cymru Garedig yn eich ardal chi
Mae Cymru Garedig yn ymwneud ag adeiladu cymunedau lle mae pobl bob dydd yn chwarae rhan gryfach yng ngofal a chefnogaeth pobl wrth iddynt heneiddio ac ar ddiwedd oes. Os oes gennych ddiddordeb mewn creu cymuned garedig yn eich ardal chi, cysylltwch â ni.
Pecynnau cymorth ar gyfer adeiladu Cymru Garedig yn lleol
Mae rhai pecynnau cymorth a awgrymir y gallwch eu defnyddio i ddatblygu grwpiau lleol ac i helpu i rwydweithio â grwpiau eraill. Dyma rai efallai yr hoffech chi ddarllen drwyddynt. Wrth gwrs gallwch hefyd gymysgu ac uno elfennau a allai gyd-fynd â’ch gofynion penodol. Gallwn eich cynghori ar sut i wneud y defnydd gorau o’r pecynnau cymorth hyn.
- Good Life, Good Death, Good Grief
- The Groundswell Project
- British Columbia Centre for Palliative Care: Compassionate Communities Toolkit
- Healthy End of Life Project (HELP)
- Startup Toolkit – Pallium Canada
- Researching Compassionate Communities in Australia
Darganfyddwch beth sy’n digwydd yn lleol
Mae prosiectau yn digwydd ledled Cymru, ond rydym ar ddechrau adeiladu mudiad sy’n cefnogi cymunedau ar hyd a lled y genedl.
Gallwch gysylltu â’r prosiectau canlynol i ddarganfod mwy:
- Cath Thompson, Cysylltydd Cymunedol Tosturiol yn St Paul’s Aberafan, communityconnector@parishofaberavon.org
- Kimberley Jones, Swyddog Datblygu Macmillan, Caerau and Ely ACE Hub kimberleyj@aceplace.org
- Hazel Cryer, Cydlynydd Iechyd a Llesiant, Caerau and Ely ACE Hub hazelc@aceplace.org