Gofalu am berson sy’n marw
Os yw rhywun rydych chi’n poeni amdano yn marw, mae yna nifer o ffynonellau cymorth y gallwch chi eu cyrchu i gael help.
Os oes gennych anghenion gofal brys, mae’n bwysig eich bod chi’n siarad â’ch tîm gofal lliniarol lleol neu gyda’ch meddyg teulu.
Am wybodaeth gyffredinol sy’n ymwneud â gofal lliniarol a rheoli symptomau, mae gan Marie Curie set ragorol o adnoddau a allai fod yn ddefnyddiol. https://www.mariecurie.org.uk/help/support/being-there
Os oes angen i chi siarad â rhywun, mae nifer o elusennau sy’n darparu cefnogaeth trwy gydol yr wythnos:
- Marie Curie: 0800 090 2309
- Cymorth Canser Macmillan: 0808 808 0000
- Cancer Research UK: 0808 800 4040
- Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint: 03000 030 555
- Cymdeithas Alzheimer’s: 03300 947 400
- Dementia UK: 0800 888 6678
- Parkinson’s UK: 0808 800 0303
- Carers UK: 0808 808 7777
Gallwch hefyd gyrchu gwybodaeth ddefnyddiol iawn ar wefan Hospice UK sy’n dweud wrthych beth i’w ddisgwyl pan fydd rhywun yn marw a sut i helpu i ofalu amdanynt.