Gwrando a chael sgyrsiau tyner gyda Dr Kathryn Mannix

Beth sy’n digwydd pan fyddwn wir yn gwrando ar rywun, yn rhoi ein holl sylw iddynt gyda thynerwch a thosturi, ac yn eu galluogi i siarad am yr hyn sydd bwysicaf?

Mae Cymru Garedig wrth ei fodd yn eich gwahodd i Sgwrs gyda Dr Kathryn Mannix. Mae’r weminar sy’n dwyn y teitl Gwrando a chael sgyrsiau tyner yn edrych ar yr hyn sy’n digwydd pan fyddwn wir yn gwrando ar rywun, yn rhoi ein sylw i gyd iddynt gyda thynerwch a thosturi, ac yn eu galluogi i siarad am yr hyn sydd bwysicaf.

Dyma pwy fydd aelodau ein panel:

Dr Kathryn Mannix: ar ôl gweithio ym maes gofal lliniarol am 30 mlynedd mewn ysbytai, timau ac ysbytai cymunedol, gwnaeth hi ymddeol yn gynnar er mwyn gweithio i wella dealltwriaeth y cyhoedd o farwolaeth. Mae’n ysgrifennu, darlithio a darlledu’n eang yn y DU a thu hwnt; cyrhaeddodd ei llyfr cyntaf  ‘With the End in Mind’ restr fer y Wellcome Book Prize a bu’n llyfr y flwyddyn yn y Times. Derbyniodd ei hail lyfr ‘Listen: how to find the words for tender conversations’ ganmoliaeth fawr pan gafodd ei gyhoeddi ym mis Medi 2021. Mae’n dal i ddod dros y syndod.

Dr Idris Baker: Mae Idris wedi bod yn Ymgynghorydd Meddygaeth Liniarol yn Abertawe ers 17 mlynedd.  Mae’n Arweinydd Clinigol Cenedlaethol ar gyfer gofal lliniarol a gofal diwedd oes yng Nghymru, mae’n gadeirydd y Grŵp Llywio Cenedlaethol ar gyfer Profedigaeth, ac mae’n cyfrannu’n rheolaidd at addysg yng Nghymru ac ar bynciau gofal lliniarol a moeseg glinigol mewn mannau eraill. Mae’n mwynhau dadl, ac yn ymhyfrydu yn y ffaith iddo gael ei gyhuddo gan un gwrthwynebydd yn y wasg o fod yn ‘wirioneddol ddrwg’.

Lesley Howells: Mae Lesley yn Brif Seicolegydd ac yn Seicolegydd Clinigol Ymgynghorol yn Maggie’s. Mae Maggie’s yn darparu cymorth ymarferol, emosiynol a chymdeithasol am ddim i bobl â chanser a’u teuluoedd a’u ffrindiau, sy’n dilyn y syniadau ynghylch gofal canser a nodwyd yn wreiddiol gan Maggie Keswick Jencks. Mae gan ganolfannau Maggie’s, sydd wedi’u hadeiladu ar diroedd ysbytai canser y GIG, staff proffesiynol wrth law i gynnig y cymorth sydd ei angen ar bobl.

Dr Justine McCullough:  Mae diddordeb Justine yn y drafodaeth a’i pharodrwydd i siarad yn y drafodaeth yn seiliedig ar ei phrofiad o ofalu am ei thad a fu’n byw gyda Chlefyd Niwronau Echddygol cychwynnol am ddwy flynedd cyn marw yn 59 oed. Roedd ei thad yn awyddus iawn i fyw er gwaethaf ei symptomau a oedd yn datblygu. Bu Justine a’i theulu yn gefn iddo, ac ar y diwedd, roeddent yn gofalu amdano gartref pan oedd ar beiriant anadlu.

https://www.eventbrite.com/e/listening-and-having-tender-conversations-with-dr-kathryn-mannix-tickets-319715085427