Datganiad Hygyrchedd
Datganiad hygyrchedd Compassionate.Cymru
Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn gymwys i wybodaeth ar Compassionate.Cymru
Mae’r datganiad hwn yn amlinellu pa mor hygyrch yw’r wefan hon, sut i roi gwybod am broblemau a sut i ofyn am wybodaeth mewn fformat arall.
Defnyddio’r wefan hon
Cymru Garedig sy’n rhedeg y wefan hon – gyda chefnogaeth partneriaeth rhwng y trydydd sector, Llywodraeth Cymru a’r GIG yng Nghymru . Rydym eisiau i gynifer o bobl â phosib allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, golyga hynny y dylech allu:
- nesáu hyd at 300% heb i’r testun orlifo oddi ar y sgrin
- gwe-lywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
- gwe-lywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
- gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)
Rydym hefyd wedi sicrhau bod testun y wefan mor syml â phosib i’w ddeall.
Mae cyngor ar gael gan AbilityNet ynghylch gwneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych chi anabledd.
Hygyrchedd y wefan hon
Rydym yn gwybod nad yw pob rhan o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:
- nid yw rhai tudalennau a dogfennau sydd wedi’u hatodi wedi’u hysgrifennu’n glir – ond rydym yn gweithio i wella hyn
- mae sawl dogfen mewn fformat PDF ac nid ydynt yn hygyrch
Adborth a manylion cyswllt
Mae’r wybodaeth ar y wefan hon ar gael mewn fformat arall fel PDF hygyrch, print bras, fersiwn hawdd ei ddeall, recordiad sain neu braille drwy gysylltu drwy un o’r dulliau canlynol:
- e-bost: contact@compassionate.cymru
Er mwyn ein helpu i ddiwallu eich anghenion yn well, rhowch wybod inni ym mha fformat arall yr hoffech chi dderbyn gwybodaeth gennym, neu os ydych chi’n defnyddio technoleg gynorthwyol.
Adrodd am broblemau sy’n gysylltiedig ag hygyrchedd y wefan hon
Rydym yn awyddus bob amser i wella hygyrchedd y wefan. Os byddwch yn ymwybodol o unrhyw broblemau nad ydynt wedi’u rhestru ar y dudalen hon neu os na fyddwch o’r farn ein bod yn bodloni gofynion o ran hygyrchedd, cysylltwch â contact@compassionate.cymru
Statws cydymffurfiaeth
Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1, yn sgil yr hyn nad yw’n cydymffurfio â nhw sydd wedi’u rhestru isod.
Cynnwys nad yw’n hygyrch
Nodwyd y cynnwys nad yw’n hygyrch isod gyda manylion:
- lle y mae’n methu â chyflawni’r meini prawf llwyddiant
- dyddiad arfaethedig ar gyfer trwsio’r materion hyn
PDF a dogfennau eraill
Dylai dogfennau newydd rydym yn eu cyhoeddi i gael mynediad at ein gwasanaethau fod yn gwbl hygyrch.
Os oes angen i chi gael gwybodaeth sydd yn un o’r mathau hyn o ddogfennau, cysylltwch â ni a gofynnwch am fformat gwahanol.
Llunio’r Datganiad Hygyrchedd hwn
Lluniwyd y datganiad hygyrchedd hwn ar 21 Mis Ebril 2021.
Cafodd y wefan hon ei phrofi ddiwethaf ar 21 Mis Ebril 2021.
Paratowyd y datganiad hwn ar 21 Ebrill 2021 ac mae’n seiliedig ar ddatganiad hygyrchedd Llywodraeth Cymru. Bydd yn cael ei adolygu erbyn mis Rhagfyr 2021.