Ein cenhadaeth, gweledigaeth a gwerthoedd

Cenhadaeth

Rydym yn fudiad cenedlaethol sy’n perthyn i deuluoedd, unigolion, cymunedau a sefydliadau ledled Cymru ac sydd wedi rhoi bywyd iddynt. Ein nod yw helpu pobl i gyrchu a chynnig gwybodaeth, gofal a chefnogaeth mewn modd tosturiol yn eu cymunedau. Rydym yn canolbwyntio’n benodol ar ofal a chefnogaeth ar ddiwedd oes pobl, pryd bynnag y bydd hynny’n digwydd.

Gweledigaeth

Ein gweledigaeth yw bod yn genedl ystyriol a gofalgar sy’n dod ynghyd i ddatblygu dulliau tosturiol i gefnogi iechyd a lles pobl. P’un a ydych chi’n byw gydag afiechyd neu ddementia, neu’n profi unigrwydd ac ynysigrwydd, neu’n delio â galar, colled a phrofedigaeth, mae Cymru Garedig yno i chi.

Rydyn ni am i bawb yng Nghymru fwynhau buddion perthyn, derbyn cymorth ar adeg pan maen nhw ei angen fwyaf a rhoi help pan maen nhw’n gallu.