Cynllunio at y dyfodol
Wrth i ni weithio i ar gamau nesaf Cymru Garedig rydym yn bwrw ymlaen â’r thema ‘Beth sydd bwysicaf i chi?’ i helpu i drefnu ein gwaith. Rydym yn gwybod na fydd pobl a sefydliadau sydd eisoes yn darparu cefnogaeth i gyd eisiau neu yn gallu helpu yn yr un modd. Yn union fel y gwyddom na fydd y rhai sydd eisiau helpu yn helpu yn yr un ffyrdd, ni fydd y rhai sydd angen rhywfaint o help i gyd eisiau’r un math o help, ar yr un pryd, yn ystod eu bywydau. Rydyn ni’n meddwl bod gofyn y cwestiwn ‘Beth sydd bwysicaf i chi?’ yn helpu i nodi’r math o help y byddech chi ei eisiau neu ei angen ac yn helpu i gyfateb yr help sy’n cael ei gynnig â’r hyn rydych chi ei eisiau fwyaf.
Mae gwneud cynlluniau ar gyfer eich gofal a diwedd eich oes pan fyddwch chi’n iach yn golygu bod llai i feddwl amdano os byddwch chi’n mynd yn sâl. Nid yw byth yn rhy fuan i feddwl am yr hyn yr hoffech chi ddigwydd os byddwch chi’n mynd yn sâl, neu os bydd eich salwch yn gwaethygu.
Bydd y mwyafrif o bobl wedi clywed am wneud ewyllys a gall eich ewyllys gynnwys manylion am y math o drefniadau angladd yr hoffech chi ond gallwch hefyd wneud cynllun ar wahân ynglŷn â hyn os yw’n well gennych.
Agwedd ymarferol arall ar gynllunio ar gyfer diwedd eich oes yw nodi pwy yr hoffech eu henwebu i ofalu am eich cyllid, neu wneud penderfyniadau ar eich rhan ynghylch eich iechyd a’ch lles os na allwch wneud hyn drosoch eich hun. Yng Nghymru gelwir y dogfennau y mae’n rhaid i chi eu cwblhau er mwyn i’r penderfyniadau hyn gael eu cofnodi yn cael eu galw’n Atwrneiaeth Arhosol (LPA)
Dyma le gallwch chi ddarganfod mwy am y rhain: https://www.gov.uk/power-of-attorney
Dyna’r agweddau ymarferol, ariannol a all roi tawelwch meddwl i chi a’ch perthnasau ar ôl iddynt gael eu trefnu.
Mae hefyd yn bwysig iawn meddwl am sut yr hoffech dderbyn gofal. Ble fyddech chi, yn ddelfrydol, am dderbyn gofal? Pa benderfyniadau fyddech chi am eu gwneud ynglŷn â’ch gofal? Mae’r rhain yn cynnwys materion megis a fyddech chi am gael eich dadebru gan ddefnyddio adfywio cardio-pwlmonaidd (CPR) pe bai’ch calon yn rhoi’r gorau i guro.
Mae yna lawer o faterion i’w hystyried ac mae’n bwysig sylweddoli y gallwch chi newid eich cynllun ar gyfer eich gofal gymaint o weithiau ag y dymunwch. Mae hefyd yn bwysig deall y gallwch gofnodi’ch dymuniadau mewn dogfen y dylid ei diweddaru gydag unrhyw newidiadau a’i rhannu â rhai pobl bwysig. Rydym wedi darparu dolenni isod a fydd yn helpu gyda’r penderfyniadau a’r dogfennau hyn.
Rydym wedi darparu gwybodaeth isod oddi ar wefan ‘What matters conversations’. Rydym yn gweithio’n agos gyda sefydliadau sy’n rhannu gwerthoedd cymunedau tosturiol a gallwch ddod o hyd i’r wybodaeth lawnaf os ymwelwch â’r wefan ond dyma rai awgrymiadau pwysig