#IRemember

#IRemember

22–26 Tachwedd, 2021

Ledled y byd, mae gan wahanol ddiwylliannau a chredoau ffyrdd gwahanol o gofio’r meirw, ac er eu bod yn wahanol, mae gwreiddiau pob un mewn cofio a phwysigrwydd peidio ag anghofio’r bobl roedden ni’n eu hadnabod. Mae #IRemember yn creu gofod i rannu atgofion, i gofio’r rhai rydyn ni wedi’u colli, ac i dorri’r tabŵ am farwolaeth a galar.

Ymunwch ag ymgyrch @DyingMatters a dewch yn rhan o #IRemember, 22-26 Tachwedd. Y cyfan sydd angen ei wneud yw:

– Rhannu atgof am rywun hoffech chi eu cofio – gall hyn fod yn ffrind, yn aelod o’r teulu, yn gydweithiwr neu’n anifail anwes. Gallwch gynnwys llun, fideo, neu destun yn unig os hoffech.

– Rhannu ar Facebook, Twitter neu Instagram gan ddefnyddio’r hashnod #IRemember a thagio @DyingMatters

Bydd Dying Matters yn rhannu eich straeon drwy gydol yr wythnos.

https://www.hospiceuk.org/our-campaigns/dying-matters/i-remember