ACE – Gweithredu yng Nghaerau a Threlái
Wythnos Ymwybyddiaeth Byw Nawr 2021 (10 – 16 Mai)
Cynhaliodd ACE – Gweithredu yng Nghaerau a Threlái, nifer o ddigwyddiadau i nodi a chyfrannu at Wythnos Ymwybyddiaeth Byw Nawr.
Dros y flwyddyn diwethaf, mae Kimberley, ein Swyddog Datblygu Macmillan, wedi bod yn gweithio gydag aelodau o’r gymuned a phartneriaid i nodi a datblygu ymatebion cymunedol i farwolaeth, marw a phrofedigaeth. Prosiect a ddatblygwyd o dan yr ymbarél hwn yw Grief Space, grŵp cymorth cymheiriaid wythnosol ar-lein sydd wedi’i anelu at y rhai sydd mewn profedigaeth. Yn ystod Wythnos Ymwybyddiaeth Byw Nawr, llwyddodd grŵp bach ohonom i gwrdd yn ddiogel ar dir y Dusty Forge. Mae Helen, sy’n aelod o’r gymuned leol, yn dweud wrthym beth oedd ei barn am y sesiwn:
‘Rwy’n cyfaddef fy mod i, ar y dechrau, yn teimlo na ddylen i fod wedi mynd, pan es i i sesiwn Grief Space yn ddiweddar.
Er fy mod i wedi profi colli llawer o aelodau’r teulu a ffrindiau, rwyf wedi colli pedwar person agos iawn, ac fe brofais i’r brofedigaeth dorcalonnus ddiweddaraf chwe blynedd yn ôl. Roeddwn i’n meddwl fy mod wedi delio gyda fy ngalar i gyd, a bellach ei bod wedi cilio i gefn fy meddwl. Neu felly y tybiais.
Ar noson ein cyfarfod, gan fy mod yn ystyried bod fy ngalar yn ‘hen’, roeddwn wir yn meddwl y byddwn i’n sylwedydd yn unig, ond cyn gynted ag y gwnaeth y cyfranogwr cyntaf ddechrau siarad am ei cholled, roeddwn yn cydymdeimlo â hi. Daeth atgofion am yr holl dorcalon o golli aelodau fy nheulu yn ôl. Roedd dau gyfranogwr yn ymdopi â cholli anwyliaid yn ystod pandemig Covid, felly roeddent yn delio â phrofedigaeth ac ‘euogrwydd’ hefyd am fethu â bod yno yn ystod eu salwch a’u marwolaethau yn dilyn hynny. Teimlai un ei bod wedi siomi ei hanwylyd, gan na allai hi roi’r angladd yr oedd yn teimlo eu bod nhw ei haeddu! Mae’r emosiynau hyn yn cymhlethu’r broses naturiol o alaru yn hwyrach ymlaen!
Wrth i’r cyfranogwyr siarad, gallwn i ‘deimlo’ eu torcalon. Nid yn unig eu bod wedi colli eu perthnasau, ond oherwydd yr unigedd a achoswyd gan Covid, nid oeddent yn gwybod beth i’w ddisgwyl gan alar chwaith. Oedd hi’n arferol crio bob dydd, neu i bobl beidio â gwybod beth i’w ddweud wrthoch chi, neu pam eu bod yn teimlo eu bod eisiau siarad am eu colled drwy’r amser? Os na chyflawnwyd unrhyw beth arall y noson honno, rydw i wir yn teimlo ein bod ni i gyd wedi sylweddoli, wrth i ni rannu ein profedigaethau, rhai diweddar a rhai hŷn, ein bod ni i gyd yn normal, waeth pa emosiwn rydyn ni’n ei brofi ac ym mha bynnag drefn. Crio, gwylltio, teimlo’n flin ac yna’n euog! Mae pob un yn normal. Cymerwch gymaint o amser ag y dymunwch, ond peidiwch ag aros yn un o’r camau.
Gwnaeth siarad â’n grŵp wneud i mi sylweddoli fod fy ngalar mewn gwirionedd yn dal i fod yn fyw iawn, ond roedd amser wedi fy helpu i’w roi yn ei gyd-destun. Er y gallai bellach gael ei ystyried yn hen, mae mor boenus i mi ag yr oedd ar y diwrnod y bu farw fy anwyliaid. Dim ond nawr rwy’n dechrau ymdopi ag e’.
Gan ymateb i adborth gan aelodau’r gymuned, bydd ACE yn cynnal sesiynau Grief Space bob yn ail a bydd sesiynau wyneb yn wyneb yn rhedeg ar y dydd Mercher cyntaf a’r trydydd dydd Mercher o bob mis (6pm – 7:30 pm) a bydd sesiynau ar-lein yn rhedeg ar yr ail ddydd Mercher a’r pedwerydd dydd Mercher o’r mis (6:30 pm – 7:30 pm) .
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â Kimberley drwy ffonio 02920 003132.